gwasanaeth i bawb: cyflwyniad i’r ombwdsmon
Wedi’i sefydlu yn ôl y gyfraith, mae gennym hawliau swyddogol i ddatrys cwynion ariannol. Mae’n wasanaeth i bawb. Rydym yn ceisio bod ar gael i bawb – a chyfarfod ag anghenion penodol ein cwsmeriaid.
Rydym yn gwbl annibynnol. Byddwn yn edrych ar y ffeithiau, yn holi cwestiynau ac yn penderfynu beth sy’n deg ymhob achos unigol. Mae’r bobl rydym yn eu cyflogi – a’n diwylliant gwaith – yn adlewyrchu’n hymrwymiad i amrywiaeth a chydraddoldeb.



