The power to settle financial complaints.
Helo, Peter yw fy enw i ac rwy’n gweithio ar ein desg cymorth cwsmeriaid. Rwyf wedi bod yma ers blynyddoedd lawer erbyn hyn ac alla i ddim dychmygu unrhyw swydd well.
Rydyn ni’n derbyn miloedd o alwadau oddi wrth gwsmeriaid sydd eisiau trafod eu cwynion ariannol â ni – ac yn gofyn sut y dylen nhw symud pethau ymlaen.
Gwn mor rhwystredig yw teimlo nad oes neb yn cymryd eich cwyn o ddifrif. Does dim ots a yw’r broblem yn fach neu’n fawr – rwy’n gwneud fy nghorau pob tro i symud pethau ymlaen ar gyfer y bobl rwy'n siarad gyda nhw.
Efallai y gallai hynny olygu rhoi cyfle i’r busnesau ariannol rydych yn anfodlon â nhw i ddatrys pethau ei hunan yn gyntaf. Neu y gallai olygu ein bod yn camu i mewn ac yn ymdrin â’r achos ein hunain.