image: signature

fy stori - clip fideo

sut wnaeth y gwasanaeth ombwdsmon fy helpu ...

gyda chymysgwch ynghylch fy morgais

Roeddwn wedi hen flino ar fy nghymdeithas adeiladu. Roeddwn wedi colli allan oherwydd eu camgymeriadau ynghylch fy morgais. Roedd cwyno iddyn nhw yn dda i ddim. Fe anfonais i'r cyfan atyn nhw mewn ysgrifen hyd yn oed ond ni newidiodd dim. Nid oeddwn yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan y gwasanaeth ombwdsmon ond dywedodd fy ngwraig y byddai'n werth eu ffonio.

Gofynnodd y wraig ar y ffôn lawer o gwestiynau. Dywedodd ei bod yn credu y gallent fy helpu. Byddai angen yr holl waith papur arnyn nhw – fy llythyrau a'm cyfriflenni – i weld beth oedd beth. Ac roedd angen llenwi ffurflen – ond fe wnaeth hi'r rhan fwyaf o'r gwaith hynny drosof ar sail y wybodaeth a roddais dros y ffôn. Dywedodd y byddent yn edrych ar fy mhapurau ac yna'n siarad â'r gymdeithas adeiladu – i gael eu hochr nhw o'r stori. Aeth tipyn o amser heibio cyn i rywun arall o'r gwasanaeth ombwdsmon gysylltu â mi. Dywedodd beth oedd fy nghymdeithas adeiladu wedi dweud. Nid oeddwn yn cytuno â'r cyfan. Ond pan esboniodd y dyn o'r ombwdsmon y peth i mi, gallwn weld fy mod i'n gyfrifol yn rhannol am y cymysgwch ynghylch fy morgais. Nid y gymdeithas adeiladu yn unig oedd ar fai. Beth bynnag datrysodd y gwasanaeth ombwdsmon y cyfan ac fe unionodd y gymdeithas bopeth. Fe dalon nhw swm bach i mi hyd yn oed oherwydd yr holl drafferth a gefais.

Mr K, Enfield