sut wnaeth y gwasanaeth ombwdsmon fy helpu ...
i atal problem fy nghwsmer rhag troi'n gŵyn ffurfiol
Roeddwn yn poeni'n fawr gan fod y sefyllfa'n edrych yn debyg o droi'n gŵyn ddifrifol. Nid oedd fy nghleient wedi cwyno i'r gwasanaeth ombwdsmon eto – ac roeddwn am geisio datrys y broblem cyn i hynny ddigwydd. Ond nid oedd unrhyw un o'm hawgrymiadau yn helpu. Roeddwn yn symud mewn cylchoedd ac roedd pethau'n dechrau mynd yn draed moch.
Rwyf wedi bod mewn busnes ers blynyddoedd ac wedi ymfalchïo erioed yn fy ngwasanaeth da i gwsmeriaid. Pan fyddwch yn rhedeg menter sydd – i bob pwrpas – yn fusnes un dyn, rydych yn dibynnu'n drwm ar gael cwsmeriaid bodlon. Wrth gwrs – gall camgymeriad ddigwydd o bryd i'w gilydd ni waeth pa mor ofalus yr ydych. Ond hyd hynny, roeddwn bob amser wedi llwyddo i ddatrys unrhyw broblemau ar fy mhen fy hun – ac ar unwaith.
Roeddwn yn teimlo'n ansicr ynghylch ffonio desg cyngor technegol yr ombwdsmon. Nid oeddwn yn siŵr y byddai diddordeb ganddynt - gan mai busnes bychan yn unig oedd gennyf. Ac roeddwn yn ofni y byddent yn dod i’r casgliad mai arnaf i oedd y bai am y cyfan. Ond roedd o gymorth mawr cael trafod pethau gyda nhw. Dywedon nhw eu bod wedi dod ar draws sefyllfa debyg i'r un roeddwn yn delio â hi nifer o weithiau o'r blaen. Roedd gwybod hyn yn rhyddhad ynddi ei hun. Fe esbonion nhw'r dull o weithredu roedd busnesau eraill wedi'i fabwysiadu mewn achosion tebyg. Ac fe awgrymon nhw ffordd o ddelio â phethau a fyddai'n deg a rhesymol, ym marn y gwasanaeth ombwdsmon. Ar ôl cael y fath awgrymiadau ymarferol, fe es yn ôl at fy nghwsmer ac yn fuan iawn fe lwyddon ni ddod i gytundeb.