Image: notice board

fy stori - clip fideo

sut wnaeth y gwasanaeth ombwdsmon fy helpu ...

gyda phroblem bancio

Roeddwn wedi codi cerdyn yr ombwdsmon rhai misoedd ynghynt mewn digwyddiad lleol. Roeddwn wedi'i binio ar yr hysbysfwrdd yn fy nghegin, gan feddwl y byddwn yn cadw'r manylion - rhag ofn. A dweud y gwir, ni feddyliais y byddai angen cymorth yr ombwdsmon arnaf mewn gwirionedd - a dim cyn gynted â hynny, yn sicr.

Ond yna pan oeddwn yn eistedd yn y gegin - yn siarad â'm banc dros y ffôn unwaith eto ac yn teimlo'n gandryll ynghylch cael fy nghadw i aros ar y lein am gymaint o amser - sylwais ar gerdyn yr ombwdsmon. Roeddwn yn disgwyl i fy merch ddod adref o'r ysgol unrhyw funud felly ni chefais gyfle i ffonio'r gwasanaeth ombwdsmon tan y diwrnod wedyn.

Roeddwn wedi llonyddu erbyn hynny ac roeddwn yn poeni rhywfaint y byddent yn dweud fy mod i wedi camddeall a dyna'r cyfan - ac fy mod yn ffwdanu ynghylch dim. Ond fe wrandawon nhw'n ofalus pan esboniais y problemau yr oeddwn wedi’u cael gyda'r banc. I ddechrau roedd yn ymddangos fel camgymeriad syml ar fy nghyfriflen ond aeth pethau o ddrwg i waeth ac ni lwyddodd y banc fyth unioni pethau, ni waeth pa mor aml y cwynais.

Cymerodd y person yn yr ombwdsmon yr holl fanylion gan ddweud y byddent yn ymchwilio i'r mater. Pan gysylltodd hi â mi rhai wythnosau'n ddiweddarach, dywedodd nad oedd yn glir i ddechrau – hyd yn oed iddyn nhw – beth yn union oedd wedi mynd o'i le. Ond yn y pen draw fe lwyddon nhw i ddatrys y mater ar fy rhan. Unwaith yr oeddynt wedi datblethu'r cyfan – mae'n debyg mai sail yr holl beth oedd nad oedd un adran o'r banc yn cyfathrebu'n iawn gydag adran arall – ni wyddai'r llaw dde beth oedd y llaw chwith yn ei wneud.

Mrs N , Lerpwl